Casgliad - Contemporary Welsh Design

View Original

Plas Carmel - Treftadaeth, Hanes a Chalon

Daeth ein hymgais i ddod o hyd i gaffi Cymraeg bach a annibynnol a ni y tro hwn i Gaffi Siop Plas yn Anelog, dim ond pum munud o Aberdaron.

Cafwyd ein syfrdanu gyda'r safle. Yn syml, mae’n sefyll am bopeth iawn, ac i ddeall yn iawn pam fod y sefydliad yma mor bwysig mae angen i mi adrodd hanes Caffi Siop Plas a sut mae’r lle hwn yn gymaint mwy na chaffi.

I wneud hyn, yn gyntaf mae angen i mi fynd â chi yn ôl i 1843.

Ym 1843 roedd safle Plas Carmel, Anelog yn cynnwys y capel (Capel Carmel), y capel (Plas), a’r gerddi ac fe’i prydleswyd i ymddiriedolwyr Capel Carmel am 999 o flynyddoedd.

Wedi hynny, adeiladwyd y siop ar y safle (Siop Plas) yn 1920 ac roedd yn gwasanaethu’r gymuned leol, gan weithredu nid yn unig fel siop ond fel canolbwynt cymunedol i bobl Anelog. Caeodd y siop ei drysau yn yr 1980au, pan ymddeolodd y tenant olaf, Thomas John Jones, a gadael y siop a’r tŷ. Gan adael y safle'n wag.

Yn 2014 daeth pwyllgor cymunedol ynghyd i adfer y safle er mwyn sicrhau ei etifeddiaeth am genedlaethau i ddod. Roedd cefnogaeth sylweddol i’r gwaith adfer a’r cyllid a roddwyd i alluogi’r safle hwn i ffynnu eto.

Yn 2020 y dechreuodd y gwaith adeiladu i adfer Siop Plas. Daeth cragen goch eiconig newydd, a ysbrydolwyd gan garreg iasbis goch yr ardal, yn lle’r sied sinc a oedd yn gartref gwreiddiol i Siop Plas. Cafodd y gwaith coed gwreiddiol o Siop Plas ei achub a’i ddefnyddio i orchuddio’r waliau mewnol gan ddod â chynhesrwydd, cymeriad a hiraeth i’r gofod.

Ym mis Hydref 2021, agorodd Caffi Siop Plas ei ddrysau unwaith eto, sy’n cael ei redeg gan Ffion Enlli o Aberdaron a’i phartner Coco o Ffrainc.

Mae’r angerdd a ddangoswyd i Gaffi Siop Plas gan Ffion a Coco yn amlwg o’r cam cyntaf drwy’r drws. Mae croeso cynnes, cyfeillgar a phrysurdeb cwsmeriaid hapus y tu mewn, y dyluniad mewnol wedi ei ystyried yn ofalus drwy gefnogi busnesau, gwneuthurwyr ac artistiaid lleol, a'r gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd a diod leol yn ychwanegu at restr hir o resymau dros ymweld â'r lle hwn.

Mae gan y caffi fwydlen syml, dymhorol (yn cael ei newid bob wythnos) gyda chynnyrch organig ffres yn cael ei gyflenwi gan Fferm y Felin a choffi o Coaltown Coffee. Pobir y bara a weinir yn lleol yn Rhiw. Mae yna hefyd ddewis amrywiol o ddanteithion melys. Yn syml iawn, y gacen foron oedd y gacen foron orau i mi ei bwyta erioed, ac rydw i wedi bwyta llawer o gacennau moron yn fy amser.

Mae'r caffi ei hun yn fach ac yn glyd. Archebwch fwrdd ar gyfer cinio i osgoi siom.

Ar hyn o bryd mae’r waliau wedi’u haddurno â ffotograffau o’r ardal gan y ffotograffydd lleol dawnus Elin Gruffydd ac ar gael i’w prynu ar y safle. Mae gwaith artist lleol gwahanol yn cael ei arddangos bob mis.

Mae cefnogi pobl leol dalentog yn amlwg ar flaen y gad ym mhob penderfyniad, gyda byrddau hardd yn y caffi wedi’u gwneud gan saer lleol, Daron Evans.

Fel yn ôl yn yr 1920au, mae’r lle arbennig hwn yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol perffaith, sydd ar gael i’r gymuned ei ddefnyddio ar gyfer achlysuron cymdeithasol, cyfarfodydd, gweithdai, neu ddigwyddiadau diwylliannol a threftadaeth. Cynhaliwyd dosbarth argraffu sgrin yn ddiweddar, gyda sesiynau ar wahân i oedolion a phlant. Gwerthodd pob tocyn, sy’n dyst i boblogrwydd a’r angen am fannau cymunedol fel y rhain.

Mae’r lle hwn yn rhoi hanes, etifeddiaeth, cynaladwyedd, moeseg, cefnogaeth i bobl leol, dyluniad hardd, a bwyd blasus o ffynonellau lleol yn ganolog i'r fenter.

Dylai pawb sy’n ymwneud â’r prosiect cymunedol hwn fod yn hynod falch o’r modd y maent wedi cyfrannu at etifeddiaeth Plas Carmel a Chaffi Siop Plas.

Sara Griffiths