Casgliad - Contemporary Welsh Design

View Original

Dyluniad. Cymreig. Cyfoes

Beth yw dylunio cyfoes?

I mi, mae dylunio cyfoes yn waith y mae’r presennol wedi dylanwadu arno, boed hynny’r hyn sydd o’n cwmpas, yn weledigaeth neu'n gredoau.

Mae Cymru'n enwog am ei thirwedd ysblennydd a'i threftadaeth gyfoethog. I lawer o bobl creadigol sy'n byw yma, gall hyn fod yn brif ysbrydoliaeth ar gyfer darn newydd o waith.  

Mae'r holl gynhyrchion a'r gwaith celf sy’n cael eu cynnwys ar wefan Casgliad wedi cael eu hysbrydoli gan yr hyn sydd o’n cwmpas nawr. Mae tirwedd, iaith, treftadaeth, deunyddiau naturiol a phobl Cymru oll wedi bod yn ddylanwadol wrth greu’r gwaith. 

Creu Cysylltiad â Chymru

Mae eitemau Casgliad yn cael eu dethol yn ofalus i gynnwys eitemau ymarferol a phrydferth. Mae'n bwysig i ni fod y cynhyrchion o amgylch ein cartrefi yn dod â llawenydd ac yn ysgogi ymdeimlad o fodlonrwydd a theimlad o fod adref. Mae pob darn yn debygol o daro tant am wahanol resymau, boed yn dwyn atgof neu'n creu ymdeimlad o berthyn. 

Ffordd newydd o feddwl

Mae’r cyfnod diweddar wedi gwneud i ni werthfawrogi'r pethau bach mewn bywyd a phwysleisio bod modd gwneud mwy gyda llai. Gall hynny ddylanwadu ar sut yr ydym yn addurno ein cartrefi, trwy gael llai o eitemau sy'n golygu mwy i ni.

 

Rydym wedi teimlo gwir ymdeimlad o gymuned a phwysigrwydd cefnogi busnesau bach. Mae cefnogi gwneuthurwyr ac artistiaid wrth wraidd ein brand, ynghyd â gwerthfawrogi hirhoedledd a chynhyrchion naturiol a chynaliadwy.

Lowri Rhys Roberts