Yn cyflwyno sylfaenydd Casgliad – Lowri Rhys Roberts
Yn ein blog cyntaf, byddwn yn archwilio cefndir Lowri, y pethau sy’n ei hysbrydoli a sut mae ei gyrfa fel pensaer wedi creu angerdd ynddi am ddylunio cyfoes ac yna ddatblygiad Casgliad.
Sut mae lle yn gwneud i chi deimlo
Magwyd Lowri yng nghefn gwlad Gogledd Cymru mewn ffermdy carreg traddodiadol ac iddo’r cynllun nodweddiadol o ddrws ffrynt yn y canol ac un ffenestr ymhob ystafell. Gan ei fod wedi ei adeiladu i sicrhau lloches ac i fod yn ymarferol, ychydig iawn o ystyriaeth a roddwyd i gyfeiriad yr adeilad a sut yr oedd golau’r haul yn teithio drwy’r ystafelloedd.
Am ei bod wedi cael y profiad hwn wrth dyfu i fyny, sylweddolodd Lowri yr effaith y mae rhywle’n ei gael, weithiau dim ond yn yr isymwybod, ar y ffordd yr ydym yn teimlo ac, fel pensaer, dysgodd sut y mae golau dydd naturiol, gwrthrychau a gwahanol ddefnyddiau adeiladu’n gallu effeithio ar hwyliau ac effaith ar deimlad y gofod hwnnw.
Ysbrydoliaeth dylunio
Wrth ddylunio, mae Lowri yn cael ei hysbrydoli gan y ffordd y gellir cyflawni harddwch drwy fanylion syml, minimalaidd, a thrwy ddefnyddio deunyddiau naturiol lleol a chymhwyso gwahanol weadau a lliwiau. Mae hi'n ystyried sut mae defnyddio’r elfennau pwysig hyn o ddylunio pensaernïol yn creu mannau ymarferol sy'n cyffroi ac yn synnu, mannau sy'n gallu ennyn ymdeimlad heddychlon yn y sawl sy’n defnyddio’r lle a mannau a gwrthrychau sy’n dwyn atgofion i gof, ymdeimlad o hunaniaeth ac ymdeimlad o le.
Gwreiddiau Casgliad
Mae gwreiddiau Cymreig Lowri a’i hymdeimlad o hunaniaeth wedi bod yn sbardun bob amser yn ei hysbrydoliaeth ddylunio ac roeddent yn ganolog i'r broses o greu Casgliad. Mae Lowri yn ceisio dathlu a hyrwyddo gwneuthurwyr ac artistiaid sy'n creu darnau cyfoes sydd â synnwyr o berthyn dwfn ac sydd wedi'u creu, eu cynllunio a’u saernïo’n hardd yng Nghymru.
Symudiad Dylunio Cymreig
Yn debyg i'r symudiad dylunio o Sgandinafia, mae Lowri yn rhagweld datblygiad symudiad Dylunio Cyfoes Cymreig. Lle gall Cymru ddod yn arweinydd mewn nwyddau cartref prydferth wedi'u saernïo'n dda a gwaith celf sy’n mynegi gyda phaled syml o ddefnyddiau, lliwiau a gweadau naturiol; sy’n symud i ffwrdd oddi wrth symbolau traddodiadol Cymru fel y cennin pedr, y ddraig, y genhinen neu'r fenyw draddodiadol Gymreig fel yr unig agwedd o ddarn oedd yn dangos ei fod yn gyfystyr â Chymru.
Sara Griffiths